Nid aur yw popeth melyn

30.1.05
Mae'r National Audit 0ffice wedi cyhoeddi adroddiad ar ran y llywodraeth am lwyddiant (neu beidio) timau Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Athen.
Yn ei golofn yn yr Observer heddiw, mae Duncan Mackay yn beirniadau yr adroddiad â'i edrychiad oeraidd ar yr arian mae'r athletwyr yn ei dderbyn gan y Loteri Cenedlaethol.

The number crunchers have worked out that each of the gold medals Kelly Holmes won came at a cost to the nation of £2.8 million. That is relatively cheap compared with the £3.3m that Britain's medals in swimming cost but not as economical as the bronze medal won by Alison Williamson in archery. That was a very reasonable £300,000.


Mae'r NAO am weld cwtogi'r arian sydd yn cael ei wario ar athletwyr fethodd â sicrhau medalau - campau tebyg i triathlon a gymnasteg.

Ond be am edrych ar y perffomiadau yn hytrach na'r medalau. Cafodd Marc Jenkins ddamwain hanner ffordd trwy'r cymal beicio o'r triathlon a thorodd olwyn ei feic gan chwalu ei obeithion. Ond penderfynodd y Cymro ei fod am orffen y ras a cariodd y beic ar ei gefn yn lle ei reidio.
A ddylai Jenkins gael ei gosbi trwy dderbyn llai o gymorth arianol?

Ac yr enghraifft perffaith yw'r un mae Mackay yn ddefnyddio yn ei erthygl:

Under the new guidelines that the NAO want introduced, UK Athletics would probably have given up on [Holmes] several years before and instead invested their limited National Lottery funds in a young, upcoming talent.

In Atlanta Holmes had lined up as one of the favourites for a medal in the 800m and 1500m. Her chances were ruined by a stress fracture and she left those Games without a medal. The harsh facts of a results sheet, where there are no excuses listed, showed that she had failed.

Observer Sport

Sawl belt sydd angen ...?

27.1.05
Pan oeddwn i'n tyfu fyny roedd pawb yn gwybod pwy oedd pencampwr pwysau trwm y byd bocsio. Roedd Muhammad Ali, Leon Spinks a Larry Holmes yn enwau cyfarwydd a roedd pawb wedi gwylio neu chlywed y 'Rumble in the Jungle' a'r 'Thriller in Manila'.
Ond erbyn hyn mae cymaint o gyrff rheoli - WBA, WBC, IBF, WBO, WBU, IBO, - mae'r sefyllfa'n hurt.
Lamon Brewster yw'r pencampwr WBO
(Trechodd Brewster Wladimir Klitschko er mwyn cipio'r goron WBO wedi Cory Sanders ryddhau'r teitl gan nad oedd am ymladd Brewster)
John Ruiz WBA
(Trechodd Ruiz Hasim Rahman i fod yn bencampwr "dros dro" y WBA a chafodd y goron yn swyddogol wedi ymddeoliad Roy Jones, Jr.)
Chris Byrd IBF
(Cipiodd Byrd y goron wedi Don King dalu $1m i Lennox Lewis ryddhau ei afael ar y teilt er mwyn iddo drefnu gornest rhwng Byrd ac Evander Holyfield)
Vitali Klitschko WBC
(Nid oes pencampwr WBU ac IBO ar hyn o bryd)

Ond sawl un o'r uchod sydd yn enw cyfarwydd?


WBA
WBC
IBF
WBO
WBU
IBO

O'r cwrt i'r llys

26.1.05
Roedd pump o chwaraewyr pêl-fasged yr Indiana Pacers o flaen eu gwell ddoe wedi brwydr â chefnogwyr y Detroit Pistons yn ystod y gêm yn yr NBA ym mis Tachwedd.



Yn ogystal â'r chwaraewyr mae tri cefnogwr y Pistons yn y llys gydau ohonynt wedi ei orchymyn i ymweld â chyfarfodydd Alcoholics Anonymous.
Er hyn, does na'm sôn o'r achos llys ar safle we swyddogol yr NBA!

ESPN

Rallye Automobile Monte-Carlo

Roedd y Monte yn wych dros y Sul gyda Sebastien Loeb yn arwain o'r dechrau i'r diwedd yn ei Citroen, ond oeddech chi'n gwybod fod y Rallye Monte-Carlo Historique yn digwydd penwythnos yma.
Er mwyn cystadlu mae'n rhaid gyrru car o'r math gystadlodd yn Rallye Monte-Carlo rhwng 1955 a 1977, a rwy'n siwr nad fi yw'r unig un fydd yn meddwl am y Mini Cooper S pan yn meddwl am Rali Monte-Carlo y gorffennol.

Llwyddodd y Mini Cooper S i ennill y Monte Carlo dair blynedd yn olynol o 1964 i 1967 ond ym 1966 cafodd yr holl Mini Coopers eu gwahardd o'r rali am iddynt ddefnyddio goleadau oedd ddim yn dipio!

BBC On This Day

Automobile Club de Monaco

Croeso

Wedi llwyddiant (!?) blog droed a chyda blog am rygbi yn ymddangos, 'dwi wedi penderfynu ceisio cadw blog ar y byd chwaraeon yn gyffredinol.

Y Rheng Flaen