Rallye Automobile Monte-Carlo

Roedd y Monte yn wych dros y Sul gyda Sebastien Loeb yn arwain o'r dechrau i'r diwedd yn ei Citroen, ond oeddech chi'n gwybod fod y Rallye Monte-Carlo Historique yn digwydd penwythnos yma.
Er mwyn cystadlu mae'n rhaid gyrru car o'r math gystadlodd yn Rallye Monte-Carlo rhwng 1955 a 1977, a rwy'n siwr nad fi yw'r unig un fydd yn meddwl am y Mini Cooper S pan yn meddwl am Rali Monte-Carlo y gorffennol.

Llwyddodd y Mini Cooper S i ennill y Monte Carlo dair blynedd yn olynol o 1964 i 1967 ond ym 1966 cafodd yr holl Mini Coopers eu gwahardd o'r rali am iddynt ddefnyddio goleadau oedd ddim yn dipio!

BBC On This Day

Automobile Club de Monaco
« Home | Next »

» Post a Comment